Nid yw ddrafftio prydlesi ac cytundebau bob amser yn yn cael y sylw y mae'n ei haeddu.Gall landlordiaid lunio eu dogfennau eu hunain neu ddefnyddio cytundebau safonol sydd ar gael. Beth bynnag, nid yw hyn yn cymryd i ystyriaeth natur unigryw pob sefyllfa.
Os ydych chi'n landlord neu'n denant, mae eich prydles yn penderfynu yr hawliau sydd gennych pan ddaw i'r eiddo. Mae'r gyfraith yn y maes yma yn parhau i ddatblygu, ac mae cadw i fyny hefo'r manylion o'r newidiadau mewn rheoliadau yn waith i tim cyfreithiol arbenigol.
Rhentwch gyda hyder
Boed os ydych yn gosod gadael adeiladau allanol neu prydlesu tir ar sail tymor hir, mae'r prydlesau a'r cytundebau sy'n cael eu drafftio'n dda yn rhoi'r hyder i pawb sydd yn ymwneud â'r trafodiad.
Mae sefyllfaoedd sydd yn gyfarwyddo cytundebau cyfreithiol yn cynnwys:
- Torri cyfamodau
- Trwyddedau i osod, isosod ac i welliannau
- Prydlesau newydd, estyniadau, deddfau amrywiadau a throsglwyddiadau
- Hysbysiadau a chamdirio
- Adfer dyledion rhent a gweithdrefnau meddiannu.
Rydym yn arbenigo mewn prydlesau a chytundebau sy'n ymwneud â tir a eiddo amaethyddol. Mae gennym brofiad sylweddol mewn materion o'r fath ac rydym yn cynrychioli llawer o gwsmeriaid amaethyddol.
Elwch o'n profiad
Gyda'n cyfreithwyr arbenigol mewn prydlesau a chytundebau i droi atynt, gallwch gael chyngor ar sut i wneud y gorau o'ch tir amaeth a'ch eiddo.
Rydym yn deall bod tir amaeth a adeiladau gwledig yn cynnwys problemau cyfreithiol sydd yn wahanol i rhai trefol, ac mae gennym y gwybodaeth arbenigol i sicrhau nad yw dim yn cael ei adael i ddigwydd.
Mae ein profiad dwfn a'n gwybodaeth gyfreithiol arbenigol yn golygu y gallwch fod yn sicr o gytundeb parhaol sy'n fusnesol ac yn gyfreithiol ddilys.