Gall fod yn anodd gwerthu a phrynu tir ac eiddo amaethyddol. Gyda materion dyrys, yn cynnwys hawliau tramwy a chynlluniau stiwardiaeth amgylcheddol i fod yn ymwybodol o, mae’n anochel y bydd angen cyngor cyfreithiol arbenigol.
Mae gennym ni yr arbenigedd i oresgyn yr heriau unigryw hyn. Gyda thîm ymroddedig o gyfreithwyr amaethyddol, rydym yn darparu gwasanaeth cyfreithiol o'r radd flaenaf i berchnogion tir cefn gwlad.
Prynu a gwerthu tir ac eiddo amaethyddo
Os ydych yn gwerthu neu'n prynu, ac os ydych a yw'n cynnwys un erw neu fil, mae'r ystyriaethau cyfreithiol yn niferus. Er enghraifft:
- Oes yna cyfyngiadau ar ddefnydd yr eiddo?
- Gallwch cael mynediad cyfreithiol i'r eiddo?
- Ydi yr ffiniau'n cyfateb i'r rhai a ddelir gan y Gofrestrfa Tir?
- A oes unrhyw ran o'r tir neu'r eiddo yn cael ei feddiannu?
- Ydi'r gwerthwr y perchennog cyfreithiol o'r eiddo?
Gyda lawer o blynyddoedd o brofiad ymarferol, mae gan ein cyfreithwyr arbenigol ddealltwriaeth drylwyr o'r holl faterion sy'n ymwneud hefo gwerthu a phrynu amaethyddol. Mae ein harbenigedd eang yn ein galluogi i gynnig atebion cyflawn sydd wedi'i deilwra i'ch union anghenion.
Trawsgludo heb y drafferth
Mae prynu a gwerthu tir ac eiddo amaethyddol bron bob amser yn golygu rhwystrau cyfreithiol annisgwyl. Rydym yn eich helpu i oresgyn yr anawsterau yma heb unrhyw oedi niweidiol neu straen personol.
Mae ein cyfreithwyr profiadol yn cymryd agwedd gynhwysfawr, yn cynllunio ar gyfer y posibiliadau rhagweladwy ac yn ei ddogfennu nhw. Mae'n ddull integredig sy'n sicrhau eich bod yn elwa ar y cyngor a'r cymorth sydd eu hangen arnoch i wneud y gorau o'ch buddsoddiad.